Tipyn bach am Lynebwy
Croeso!
Failte! Welcome! Bienvenue! Alright, butt!
(gan Paul Walbyoff a Robert Smith. Diolch i Phylip Brake am ei help gyda
chyfieithu)
Ar
hyn o bryd, mae Glynebwy yn chwarae yn y Bencampwriaeth, sef yr adran
newydd a sefydlwyd gan Undeb Rygbi Cymru i ddechrau fis Medi, 2012.
Enillodd y clwb Adran Un y Dwyrain yn 2010-11 a 2011-12, ar ôl cael ei
ddiraddio o Uwchadran y Principality yn 2010.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich taith a’ch ymweliad â Glynebwy. Os
oes gennych unrhyw sylwadau, e-bostiwch y
gwefeistr.
Lleolir Glynebwy yn ne-ddwyrain Cymru ym mwrdeistref Blaenau Gwent.
Ymhlith y bobl enwog sy’n hanu o Lynebwy mae’r dylunydd ffasiwn, Geoff
Banks; rheolwr Oasis (a chyn-cadeirydd y clwb) Marcus Russell; Steve
Jones, rhedwr Marathon a ennillodd y rhas yn Llundain ym 1985 a sy'n
dal i gynnal record Prydeinig y Marathon (2:07:13 yn Chicago, yr un
flwyddyn); chwaraewr snwcer, a chyn pencampwr y byd, Mark Williams; a’r
seren sgrin/llwyfan, Brian Hibbard a gyrhaeddodd frig siartiau pop Prydain
gyda’r ‘Flying Pickets’, ac a gafodd ffling gyda Deirdre yn
‘Coronation Street’! Ond unwaith eto, pwy (yn ôl y sôn) sydd ddim?
Priododd Penny Tranter o Adran Dywydd y BBC, i mewn i deulu oedd yn
berchen siop groser a blodau yn ‘Badminton Grove’ ac, wrth gwrs,
dyna’r canwr pop enwog o Gymro, Tom Jones. Arhoswch funud, mae e’n dod
o Bontypridd, er y gred yw ei fod unwaith wedi cael ei dalu (yn ôl y sôn)
am beidio â chanu yn y Ty Bryn!
Defnyddiwyd dur o Lynebwy i adeiladau Pont Harbwr Sydney, ac mae 44,000 o
friciau peirianyddol coch o Gendl yn cynnal Adeilad yr ‘Empire State’,
tra bo dociau Southampton yn sefyll ar slag wedi ei fathru (amureddau wedi
eu hoeri o wneud dur) o waith haearn Cendl.
Mae tref Glynebwy, a’r ardal o’i chwmpas, yn meddu ar orffennol
diwydiannol cyfoethog – yn y lle cyntaf yn sgil cynhyrchu haearn a
mwyngloddio glo, ac wedyn oherwydd y diwydiant dur – a dyna pam mai
DYNION DUR (STEELMEN) yw llysenw Clwb Rygbi Glynebwy.
Yn sgil yr hinsawdd economaidd cyfnewidiol sydd ohoni, ynghyd â
chynllwyniau cyfalafiaeth global, caeodd y pyllau glo a’r gwaith dur (a
oedd yn ei ddydd, y gwaith dur integredig hwyaf yn y byd) a roddai swyddi
i bobl Glynebwy a’r ardal o’i chwmpas. Y dyddiau hyn, mae llawer o
bobl Glynebwy yn dal i weithio mewn cwmnïau lleol, tra bo eraill yn
teithio bob dydd i weithio yng Nghasnewydd neu Gaerdydd.
Mae Glynebwy yn meddu ar hinsawdd falmaidd a mwyn. Dyw hi braidd byth yn
bwrw glaw yma. Ni fu eira yma ers iddi friwlan rhyw ychydig yn ôl yn
1947, ac mae’r tymheredd cyfartalog blynyddol yn cymharu’n ffafriol â
gorllewin Awstralia a’r Cote d'Azur. (Daw’r wybodaeth yma o waith
clasurol Billy Benjy – a ystyrir gan lawer ei fod yn waith diffiniadol
yr oes, sef ‘101 o Gelwyddau am Lynebwy’.)
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned a chlwb rygbi Glynebwy, gweler y
cyhoeddiadau canlynol:
‘Steel, Skill and Survival: Rugby in Ebbw Vale and the Valleys (1870 -
1952)’ gan David Boucher.
‘Heritage: A History of Ebbw Vale (Volume 1)’ gan Keith Thomas. (ISBN
0948698098)
‘A History of Ebbw Vale’ gan Arthur Gray-Jones.
Sut i gyrraedd yma
Satnav: NP23 5AZ
Mapiau Google cliciwch yma
Trên pob awr o Gaerdydd Canolog yn galw am Rogerstone, Rhisga a
Phontymeistr, Crosskeys, Trecelyn, Llanhilledd a Pharcfford Glynebwy. O'r
orsaf, cymerwch tacsi i Barc Eugene Cross (5 munud) neu fws i ganol y dref
a thro byr i Barc Eugene Cross.
Ar fws: Y prif gysylltiadau o ddinasoedd Caerdydd a Chasnewydd yw
gwasanaeth bws X4 sy’n rhedeg rhwng Caerdydd a Henffordd drwy Bontypridd,
Merthyr Tudful, Glynebwy a’r Fenni, yn y ddau gyfeiriad, a gwasanaeth 22
sy’n rhedeg rhwng Casnewydd a Glynebwy drwy Gwmbrân, Pontypwl ac Aberbîg,
yn y ddau gyfeiriad. Dylech ymgynghori â’r cwmni, sef ‘Stagecoach’,
cyn cychwyn.
Mewn awyren i Gaerdydd neu Fryste; mae gan y ddau faes awyr fynediad
rhwydd i draffordd yr M4.
Ar yr heol yn teithio o’r M4 Gadewch yr M4 ar Gyffordd 28.
O ble bynnag y dowch, cewch groeso cynnes iawn, ac o ddilyn y cyfarwyddyd
canlynol, dewch o Gyffordd 28 yr holl ffordd i heulog Barc Eugene Cross.
Wrth y cylchfan yn syth ar ôl Cyffordd 28, anelwch am yr A487, gan ddilyn
yr arwyddion am Risga a Bryn-mawr. Dyna’r tro cyntaf ar y chwith os
dowch o’r gorllewin, ond ar y dde ichi, os byddwch yn dod o’r dwyrain.
Yn fuan iawn gwelwch gylchfan arall lle y dylech ddilyn yr A467 a’r un
arwyddion. Mae hon yn ffordd ddeuol dda. Drwy gyfres o gylchfannau, cadwch
ar yr A467, gan ddilyn yr arwyddion i FRYN-MAWR.
Oddetu 12 milltir ar ôl gadael yr M4, ewch drwy groesffordd weddol fawr
â goleuadau traffig yng NGHRYMLYN. Cyn ichi gyrraedd y goleuadau traffig
yng NGHRYMLYN, fe welwch ar y chwith, ffatri’r gwneuthurwyr Hi-Fi/Fideo
o Japan, sef AIWA.
Cariwch ymlaen, gan ddilyn yr A467, sydd erbyn hyn yn ffordd sengl. Wrth y
cylchfan nesaf, trowch ar y chwith i’r A4046. Gwelwch arwyddion i BARC
yr WYL ag wyneb fel clown arnyn nhw. Byddwch yn teithio ar hyd heol gul â
choed pîn (pert iawn!), ac ar ôl ychydig filltiroedd, cyrhaeddwch dref
fach CWM. Wrth y cylchfan, cymerwch y 3ydd fynedfa (yr A4046). Edrychwch
yn eich tywyslyfr o stereoteips ac ystrydebau a throi at ‘olygfa
nodweddiadol o Gymoedd Cymru.’
Yr A4046 yw’r heol yma o hyd. Cadwch ar yr heol hon hyd cyrhaeddwch
WAUN-LWYD. Wrth deithio drwy WAUN-LWYD, gwnewch yn siwr nad ydych yn mynd
dros 30 mya (50 cya) gan fod yno nifer o gamerâu heddlu, a fyddech chi
ddim angen ymddangos ar gyfres deledu Sky, ‘Pan fo Pobl yn Cyflymu drwy
Waun-lwyd.’
Chwiliwch am WESTY’R PARC (PARK HOTEL), sef adeilad gerrig llwyd ar y
dde ichi. Bydd angen ichi droi i’r dde* ychydig cyn cyrraedd GWESTY’R
PARC. Wrth ichi deithio ar hyd yr heol, fe welwch safle'r hen Waith Dur ar
y chwith.
Os arhoswch ar yr heol yma, ymhen rhyw ddwy filltir, byddwch tu allan i
Glwb Rygbi Glynebwy.
*Dewis arall i ffordd GWESTY’R PARC: yn lle troi i’r dde, arhoswch ar
yr heol yr ydych arni, ac wrth y cylchfan nesaf, cymerwch yr 2il fynedfa.
Gwelwch safle'r hen Waith Dur ar y dde ichi, a dylech fynd yn syth ymlaen
am tua milltir hyd nes y gwelwch, ar y chwith, ranc tacsi a rhes o
arosfannau bws.
Heibio i’r arosfannau bws, mae’r heol yn troi i groesfan belican. Cyn
cyrraedd honno, trowch i’r dde ar y cyffordd. Dilynwch yr heol i lawr
i’r cyffordd nesaf a bydd Clwb Rygbi Glynebwy ar y dde ichi.
O'r A465 (Heol Pennau'r Cymoedd)
Ar gylchfan GLYNEBWY bydd
rhaid ichi ddilyn y fynedfa a'r arwydd sy’n dweud, GLYNEBWY (mynedfa
cyntaf o'r ddwyrain neu trydydd fynedfa o'r gorllewin).
Cariwch yn syth ymlaen. Ar y dde ichi mae Ysgol Gyfun Glynebwy a champws
Glynebwy Coleg Gwent. Ar y chwith mae Ysbyty'r Tri Chwm a meysydd chwarae.
Wrth y cylchfan, cymerwch y fynedfa gyntaf. Ar y chwith mae’r Orsaf Dân.
Cariwch yn syth ymlaen. Wrth y cyffordd nesaf (llawer o goleuadau traffig) mae Clwb Rygbi Glynebwy ar y chwith ichi.
O ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn teithio, mae’r tirnodau ger y maes yn
cynnwys TESCO, Canolfan Hamdden Glynebwy, y Canolfan Gwaith a’r Ganolfan
Ddinesig.
Gellir parcio yn y Ganolfan Ddinesig a thu ôl i Westy’r ‘Bridgend’
ger Ysgol Pont-y-gof.
Os oes gennych amheuaeth, rydym yn gyfeillgar iawn, ac eithrio Jones, y
senoffôb, wrth gwrs.
Llety a Lluniaeth
Mae llawer o westai yn yr ardal o gwmpas Glynebwy – pob un ohonyn nhw o
fewn taith car 15 / 20 munud o Lynebwy. Yn y dref ei hunan, cewch
aros yn yr Ebbw Vale Guesthouse, y Park Hotel neu'r Premier Travel Inn (nes
i'r orsaf).
Diau y byddwch am brofi awyrgylch ty’r clwb, 'The Welfare', ym Mharc
Eugene Cross, ond mae yna amryw o dafarndai o fewn cyrraedd y maes ar
droed, yn enwedig Gwesty’r ‘Bridgend’ (tu allan i’r brif fynedfa),
y ‘King’s Arms, ac yng nghanol y dref, mae'r ‘Picture House’ (tafarn
J. D. Wetherspoon lle gellir cael bwyd o ansawdd dda am bris rhesymol), y
Saith Bwa (Severn Arches) a Thafarn y Farchnad (Market Tavern) (tafarn â
cherddoriaeth fyw). Mae yng nghanol y dref nifer o siopau bwyd parod lle
gellir blasu bwyd o’r India, Tseina, cyw iâr wedi’i ffrïo, cebabs, a
‘sgods a ‘sglods traddodiadol a'r restaurant Indiaidd rhagorol y Tara
Mahal.
Ffoniwch y Clwb ar 01495 302995 am gyngor.
PLEASE SUPPORT OUR VALUED SPONSORS






![]()

Lawson
D. Jones Insurance Consultants ![]()





